News - Header

fondo

Y Newyddion Diweddaraf

Asset Publisher

News text cy

Dyma'r ffordd hawsaf o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre. Yma, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith adeiladu a'r gwaith cymunedol eithriadol.

News
Newsletter
Timelapse Camera
Monitoring Reports
Información (1)
2025-10-21

News

Annwyl drigolion,

 

Gobeithiwn eich bod yn iawn a diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad parhaus.

 

Efallai eich bod wedi sylwi ar welliannau dros yr wythnos ddiwethaf o ganlyniad i'r mesurau parcio ychwanegol rydym wedi'u rhoi ar waith. Mae'r camau gweithredu hyn wedi'u rhoi ar waith i fynd i'r afael â phryderon a fynegwyd ac er mwyn ceisio tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol.

 

Mae'r mesurau allweddol sydd bellach mewn grym yn cynnwys:

  • Parcio Dynodedig Oddi ar y Safle: Rydym wedi trefnu parcio oddi ar y safle, wedi'i gaffael gan Sacyr, ac rydym yn gweithredu gwasanaeth bws gwennol i gludo gweithredwyr y gadwyn gyflenwi i'r safle ac oddi yno.
  • Patrolau Parcio: Mae patrolau rheolaidd yn cael eu cynnal mewn ardaloedd preswyl cyfagos i fonitro ac i annog pobl i beidio â pharcio’n amhriodol. Bydd hysbysiadau’n cael eu rhoi i unrhyw gerbydau a ddarganfyddir yn torri ein polisi parcio.
  • Mynediad a Reolir gan Gerdyn Parcio: Mae uwch-reolwyr yr isgontractwyr wedi cael cardiau parcio i'w defnyddio ym maes parcio Ysbyty’r Eglwys Newydd. Mae mynediad i'r ardal hon bellach yn cael ei reoli'n llym.
  • Cymhellion Teithio Gwyrdd: Mae cerbydau grŵp (sy'n cludo pump neu fwy o unigolion) yn cael eu hannog fel rhan o'n menter gynaliadwyedd, a chaniateir iddynt gael mynediad i'r maes parcio ar y safle ar ôl cofrestru.
  • Cydweithio ag Awdurdodau Lleol: Rydym yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol, sydd wrthi'n cefnogi ein hymdrechion trwy batrolau cymunedol. Hyd yn hyn, nid ydynt wedi nodi unrhyw gerbydau y bu'n rhaid iddynt eu gorfodi.

 

Rydym yn parhau wedi ymrwymo i fod yn gymydog da, a byddwn yn parhau i fonitro a mireinio ein dull gweithredu yn ôl yr angen. Rydym bob amser yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth.

2025-10-24_Coryton pupils explore sustainability at the new Velindre Cancer Centre.jpg
2025-10-24

News

Aeth grŵp o 15 o ddisgyblion Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Coryton ar daith fer yn ddiweddar i safle Canolfan Ganser newydd Felindre am brynhawn o hwyl, archwilio a dysgu yn seiliedig ar ailgylchu.

 

Roedd yr ymweliad yn rhan o fenter ar y cyd rhwng Sacyr UK ac EMR Recycling, â’r nod o adeiladu sgiliau hanfodol yng nghenedlaethau’r dyfodol, trwy addysgu disgyblion ifanc am wyddor adeiladu a’r systemau cynaliadwy sy’n ei gefnogi.

 

Cafodd y disgyblion eu croesawu gan Joanne O’Keefe, Cydlynydd Budd Cymunedol Sacyr UK, a dechreuodd yr ymweliad â thaith dywys o gwmpas y safle, ar lwybr diogel ar y cyrion, gan sylwi ar faint prosiect y Ganolfan Ganser newydd.

 

Yn yr ystafell ddosbarth, cyfarfu’r disgyblion â chynrychiolwyr o gwmni EMR Recycling, Barry Flanagan a Ben Taylor, a arweiniodd sesiwn ddiddorol ynglŷn â pha ddeunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar y safle a’r rôl bwysig y mae ailgylchu’n ei chwarae wrth eu cynhyrchu. Dysgodd y disgyblion hefyd am leihau gwastraff er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

Pan ofynnwyd iddo am amcanion a dylanwad y prosiect, dywedodd Ben: “Yn EMR, rydym o'r farn bod adeiladu dyfodol cynaliadwy yn dechrau wrth rymuso pobl ifanc trwy addysg. Mewn cydweithrediad â Sacyr, roeddem wedi darparu profiad dysgu diddorol yn ddiweddar a oedd yn cyflwyno myfyrwyr i bwysigrwydd ailgylchu, yr effeithiau cadarnhaol y mae ailgylchu yn eu cael ar y blaned, a'r modd y gall y deunyddiau yr ydym yn eu hailgylchu gael eu hailddefnyddio i adeiladu adeileddau newydd – efallai hyd yn oed eu hysgol nesaf neu eu gweithle yn y dyfodol.”

 

Eglurodd y ddau arbenigwr eco wrth y disgyblion beth yw’r gwahaniaeth rhwng deunyddiau magnetig ac anfagnetig, a rhoddasant samplau bach o ddeunyddiau i’r disgyblion wneud profion magnetig arnynt. Roedd hyn yn eu helpu i ddeall pa fath o fetelau sy’n cael eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd a sut maent yn berthnasol i faes adeiladu.

 

Ychwanegodd Ben: “Gyda'n gilydd, bydd Sacyr UK ac EMR yn parhau â'r gwaith hwn ar draws ysgolion a chymunedau i feithrin ymwybyddiaeth o ailgylchu yn y diwydiant adeiladu, gan ddarparu cyfleoedd dysgu ymarferol ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i arwain y ffordd o ran cyfrifoldeb amgylcheddol.”

 

“Mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd i werth cymdeithasol, addysgu pobl ifanc, a chreu gwaddol sy'n cael effaith ar bobl a'r blaned.”

ollie and lucy.jpg
2025-10-23

News

Fel y bydd rhai darllenwyr yn cofio, ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd erthygl yn dweud bod Sacyr UK yn croesawu dau brentis newydd, Faith a Sam, i’n timau Cyllid a Budd Cymunedol.

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod dau aelod newydd arall yn ymuno â’r adran Cymorth Technegol a'r adran Fecanyddol a Thrydanol, sef Lucy Calafato ac Oliver Jenkins.

 

Mae Lucy, sy’n 26 oed, yn dod o Gaerdydd yn wreiddiol, ac astudiodd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, gan gwblhau BEng mewn Pensaernïaeth a Pheirianneg Amgylcheddol. Bydd yn ymuno fel prentis yn y tîm Cymorth Technegol.

 

Deunaw oed yw Oliver, ac mae wedi’i fagu’n weddol agos at safle Canolfan Ganser newydd Felindre. Astudiodd hanes celf a’r gyfraith yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Pan ofynnwyd iddo am ei wythnos gyntaf dywedodd, “Mae fy argraff gyntaf ar ôl fy wythnos gyntaf yn gadarnhaol iawn. Mae staff Sacyr UK yn groesawus iawn ac rwy’n edrych ymlaen at ddal ati.”

 

Dywedodd Joanne O’Keefe, y Cydlynydd Budd Cymunedol, sy’n goruchwylio’r broses o dderbyn prentisiaid newydd: “Mae’n galonogol gweld ein tîm yn dal i dyfu. Rwy’n ffyddiog y bydd Lucy ac Oliver yn gyfranwyr gwerthfawr i’w timau perthynol.”

 

Ychwanegodd hefyd, “Mae’r cryfder sy’n dod o ehangu ein tîm yn sylweddol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu datblygiad.”

 

Rydym yn falch bod Lucy ac Oliver wedi ymuno â’n tîm ac rydym yn ffyddiog y byddant yn ffynnu.

2025-10-22.jpg
2025-10-22

News

Roedd Cydlynydd Budd Cymunedol Sacyr UK, Jo O’Keefe, a’r Prentis Budd Cymunedol, Sam Rees, yn falch o allu ymuno â Robyn Marshall o Sphere Solutions i roi profiad addysgol i ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Springwood yn Llanedern yn ystod eu digwyddiad Hwyl a Heini yn yr haf.

 

Roedd y sesiwn ddiddorol yn cyflwyno disgyblion i fyd peirianneg adeiladu trwy weithgaredd STEM hwyliog a hygyrch. Gan ddefnyddio dim ond ffyn a bandiau lastig, cafodd y disgyblion eu harwain i adeiladu tetrahedronau. Daethant i ddeall egwyddorion adeiladu yn fuan iawn cyn symud ymlaen yn frwdfrydig i greu modelau mwy o ran maint a mwy cymhleth.

 

Mae perthynas gydweithredol rhwng Sacyr UK a Sphere Solutions ers blynyddoedd, â Sphere Solutions yn cynorthwyo Sacyr UK â’r gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre.

 

Mae’r gweithdy yn rhan o ymrwymiad ehangach Sacyr UK i addysg a datblygu sgiliau yn Ne Cymru, gan fod y cwmni ar hyn o bryd yn arwain y gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre. Mae Sphere Solutions yn gweithio mewn cysylltiad agos â Sacyr UK fel is-gontractwr ar y prosiect gofal iechyd pwysig.

IMG_8939.jpeg
2025-10-06

News

Mae'r ffrâm bren yn hanfodol i adeiledd y ganolfan, ac yn nodwedd ddylunio allweddol. Ar ôl ei chwblhau, bydd yn ffurfio calon y Lolfa, gan greu amgylchedd cynnes a chroesawgar i gleifion, teuluoedd a staff.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, David Powell: “Mae dechrau’r ffrâm bren yn garreg filltir gyffrous iawn. Bydd yr adeiledd allweddol hwn nid yn unig yn diffinio edrychiad a theimlad y Lolfa, ond hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu ysbyty modern, carbon isel sy'n rhoi pobl wrth ei galon.”

 

Gan mai dyma un o'r fframiau pren mwyaf o'i bath yn y DU, mae ei gosod yn gam sylweddol o ran gwireddu dyluniad y ganolfan newydd. Yn ganolbwynt i ddyluniad Canolfan Ganser newydd Felindre y mae'r Lolfa, sef y gofod craidd canolog sy'n ymestyn trwy uchder llawn yr adeilad. Bydd taith pob ymwelydd a chlaf yn dechrau ac yn gorffen yn y gofod hwn. Bydd yr ardal ganolog hon yn hawdd ei hadnabod oherwydd ei gorffeniadau a'i dyluniad, gan ddarparu man cyrraedd croesawgar i gleifion ac ymwelwyr. Bydd yn cynnwys ardal gaffi, ac ail set o risiau sydd hefyd yn darparu seddi tebyg i amffitheatr lle gall meddygon, nyrsys, ymwelwyr, neu gleifion eistedd a mwynhau'r olygfa dros ardd y fynedfa isaf.

 

Mae pob agwedd ar ddyluniad Canolfan Ganser newydd Felindre, gan gynnwys y Lolfa, yn canolbwyntio ar anghenion y cleifion, y staff, y teuluoedd a'r gofalwyr. Bydd nodweddion megis trefniadau llywio gwell, cyfleusterau parcio mwy hwylus, mannau therapiwtig, ac ardaloedd pwrpasol i deuluoedd yn gwella cyfforddusrwydd, urddas, a'r profiad gofal yn gyffredinol.

 

Mae Canolfan Ganser newydd Felindre i fod i agor yng Ngwanwyn 2027. Bydd yn cyflawni canlyniadau gwell trwy driniaeth canser o safon fyd-eang, gallu diagnostig gwell, a mwy o fynediad at arloesedd, hyfforddiant ac ymchwil.

 

Mae'r delweddau hyn yn dangos dechrau'r gwaith, a byddwn yn rhannu rhagor o ddiweddariadau wrth i'r gwaith ar y ffrâm bren fynd yn ei flaen, felly arhoswch gyda ni! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gadewch sylw i ni isod.

2025-10-03_Hollybush Estate Pantry Collection.jpg
2025-10-03

News

Ar 18 Awst, cafodd tîm Budd Cymunedol Sacyr UK y pleser o ymweld ag Ystad Hollybush ger safle Canolfan Ganser newydd Felindre ar gyfer sesiwn ymgysylltu â thrigolion. Yn ystod yr ymweliad hwn, siaradodd y tîm â thrigolion yr ystad i drafod y prosiect ac i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu bryderon yn ymwneud â chynnydd y datblygiadau.

 

Yn ogystal â rhoi cyfle ar gyfer deialog agored, cyflwynodd y tîm Budd Cymunedol rodd hael i Bantri Ystad Hollybush, a gasglwyd gan aelodau'r tîm prosiect yn swyddfa Sacyr ar y safle. Mae'r pantri'n un o sawl banc bwyd ledled Caerdydd, sy'n gwasanaethu unrhyw un mewn angen, ni waeth pa mor agos ydynt at yr ystad.

 

Wrth ymweld â chyfleusterau cymunedol Hollybush, nododd Cydlynydd Datblygu'r Gweithlu Sacyr, Hannah Jenkins, y cyfle i wella ymarferoldeb yr ardal lle'r oedd y casgliad bwyd yn cael ei storio. Argymhellodd y gallai contractwyr Sacyr gynorthwyo i osod silffoedd gwell er mwyn defnyddio'r ardal yn well. Roedd Raz, un o oruchwylwyr Sacyr, wrth law i roi ei farn broffesiynol a chytunwyd y byddem yn cefnogi ar ôl cael cymeradwyaeth gan Gyngor Caerdydd.

 

Rydym hefyd wedi tynnu sylw at y pantri trwy'r bwrdd Cyfleoedd Gwirfoddoli ar ein platfform cymunedol ar-lein. Nod y fenter hon yw cysylltu'r rhai mewn angen ag adnoddau banc bwyd lleol yng Nghaerdydd, ac mae'n annog aelodau staff sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli neu gyfrannu at ddarparu cymorth cymunedol.

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r trigolion ym mhantri Hollybush am gymryd yr amser i siarad â ni, a gobeithio y bydd ein trafodaethau yn y dyfodol yr un mor gynhyrchiol.

Información (1)
2025-10-02

News

Rydym yn ymwybodol o bryderon diweddar ynghylch parcio o amgylch safle Ysbyty’r Eglwys Newydd ac rydym am sicrhau’r gymuned leol ein bod yn trin y mater hwn fel blaenoriaeth.

 

Er mwyn lleihau aflonyddwch a blaenoriaethu mynediad i gleifion a staff yr ysbyty, mae gweithwyr adeiladu wedi cael eu cyfyngu rhag defnyddio maes parcio'r ysbyty ar y safle o ddydd Llun 29 Medi. Rhoddwyd gwybod i'r isgontractwyr am y newid hwn ymlaen llaw, ac anfonwyd cyfathrebiadau ffurfiol ddydd Iau 25 Medi, yn eu hatgoffa o'r ddau gyfleuster parcio dynodedig oddi ar y safle.

 

I gefnogi'r dull gweithredu hwn ymhellach, cyflwynwyd trydydd cyfleuster parcio oddi ar y safle ddydd Mercher 1 Hydref, gan olygu bod cyfanswm o dri opsiwn ar gael i weithwyr adeiladu:

  • Clwb Rygbi'r Harlequins
  • Maes Parcio Cardiff Edge
  • Clwb Rygbi Rhiwbeina

Er mwyn sicrhau cyfeiriad clir, rydym hefyd yn defnyddio marsialiaid traffig a chyfathrebu digidol i arwain yr isgontractwyr i'r mannau parcio priodol.

 

Er gwaethaf y camau rhagweithiol hyn, mae nifer bach o isgontractwyr wedi parhau i barcio ar ffyrdd cyhoeddus, yn enwedig o amgylch Clos Coed Hir, sydd, wrth gwrs, wedi achosi pryder ymhlith trigolion.

 

Er bod parcio ar ffyrdd cyhoeddus yn cael ei ganiatáu'n gyfreithiol, mae ein cytundebau â'n hisgontractwyr yn nodi'n glir bod parcio mewn ardaloedd preswyl cyfagos yn cael ei wahardd. Ailadroddir y disgwyliadau hyn yn ystod pob sesiwn sefydlu i weithwyr ac mewn cyfathrebiadau parhaus. Yn anffodus, mae gorfodi hyn yn parhau i fod yn her, ond rydym yn cymryd camau pellach i wella cydymffurfedd.

 

Rydym hefyd yn archwilio ffyrdd o wneud yr opsiynau parcio oddi ar y safle yn fwy deniadol a chyfleus i weithwyr, er mwyn annog ymhellach ddefnydd priodol o'r cyfleusterau a ddarperir.

 

Mae ein tîm yn parhau i weithio'n agos gyda'r Ymddiriedaeth i fonitro'r sefyllfa a gweithredu atebion. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i leihau aflonyddwch a chynnal perthnasoedd cadarnhaol â'r gymuned leol.

 

Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cefnogaeth wrth i ni fynd i'r afael â'r mater hwn.

MR September
2025-09-29

Monitoring Report

New Velindre Cancer Centre - Summary Monitoring Report - September 2025

2025-09-29

Timelapse Camera

Watch last month's construction progress!

Organ Donation Support
2025-09-23

News

Bydd darllenwyr cyson yn cofio ein bod wedi cyhoeddi stori y mis diwethaf am gefnogaeth Sacyr i Believe Organ Donation Support (ODS) yn ei nod o greu gardd er anrhydedd ym Mynwent y Gogledd Caerdydd, ac yma mae'n bleser gennym roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Ddiwedd y mis diwethaf, aeth ein Rheolwr Buddion Cymunedol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid (SECBM), Katie Hathaway, ati i roi cymorth i dîm Believe yn ystod diwrnod gwirfoddoli llawn. Roedd y diwrnod wedi cynnwys amrywiaeth o waith creu buddion i'r sefydliad, a hynny o gynorthwyo i ddatblygu deunyddiau marchnata a helpu'r tîm i lunio ei strategaeth fusnes, i gael y lle'n barod ar gyfer y gwaith paratoi'r pridd a oedd ar fin dechrau.

Dechreuodd y broses o greu'r gofod ar 4 Awst, ac anelir at agor yr ardd erbyn mis Rhagfyr eleni. Rydym yn falch o allu cefnogi Believe yn ei ymdrechion i goffáu'r rhai hynny sydd wedi rhoi cymaint i gymdeithas a heb ofyn am ddim.

Dyma'r llun diweddaraf i ddangos pa mor bell mae'r ardd wedi dod yn ei blaen, gyda diolch arbennig i'r nifer o gwmnïau sy'n cefnogi Anna Bates (Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd yr elusen Believe) i ddod â'r prosiect hwn yn fyw. Os oes yna unrhyw gwmnïau sy'n awyddus i gefnogi'r datblygiad trwy ei noddi, cliciwch yma

 

suicide prevention
2025-09-19

News

Ym mhrosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre, mae atal hunanladdiad yn fwy na digwyddiad undydd yn unig. Mae'n rhan graidd o'n hymrwymiad parhaus i iechyd, diogelwch a llesiant. Trwy negeseuon gweladwy ar y safle, mynediad at adnoddau iechyd meddwl, a phartneriaeth gref â'r Lighthouse Construction Industry Charity, rydym yn gweithio bob dydd i greu diwylliant o ofal a bod yn agored.


Ar 10 Medi, i gydnabod Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, rhoddodd Sacyr ffocws o'r newydd ar iechyd meddwl trwy gyflwyno cyfres bwerus o drafodaethau ar draws y safle. Cymerodd mwy na 70 o aelodau'r tîm ran yn y sesiynau hyn, a gynhaliwyd wyneb yn wyneb ac yn rhithwir. Roedd y sgyrsiau'n canolbwyntio ar gydnabod sbardunau emosiynol, datblygu ymwybyddiaeth emosiynol, a phwysigrwydd siarad yn agored, yn enwedig yn ystod cyfnodau tywyll neu anodd.


Arweiniodd ein Cynghorydd Iechyd a Diogelwch, Stephanie Alexander, y sesiynau hyn ei hun, gan ddangos pwysigrwydd bod yn bresennol a chysylltu â'r gweithlu. Hefyd, cynhaliodd Stephanie hyfforddiant penodol i'r rheolwyr a'r goruchwylwyr, gan helpu i sicrhau y gallant gefnogi eu timau ac ymateb yn briodol mewn cyfnodau o argyfwng.
Rhannodd Stephanie pam y mae'r sgyrsiau hyn mor bwysig iddi: “Mae siarad â gweithwyr y diwydiant adeiladu am ymwybyddiaeth o hunanladdiad yn hanfodol oherwydd bod gan y diwydiant gyfraddau hunanladdiad uchel, diwylliant sy'n tueddu i rwystro pobl rhag bod yn agored yn emosiynol, a llawer o ffactorau straen sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Mae meithrin ymwybyddiaeth yn helpu i chwalu stigma, yn annog cefnogaeth ymhlith cyfoedion, ac yn hyrwyddo amgylchedd gwaith mwy diogel ac iach.”


Gyda chyfraddau hunanladdiad yn y diwydiant adeiladu yn dal yn frawychus o uchel, a gweithwyr dair gwaith yn fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad na'r cyfartaledd cenedlaethol, mae mentrau fel hyn yn hanfodol. Rhaid i gefnogaeth iechyd meddwl ymestyn i bawb ar y safle, ni waeth beth fo'u rôl neu eu lefel yn y gwaith, oherwydd yn Sacyr, credwn fod llesiant pawb yn bwysig.


Rydym wedi ymrwymo i adeiladu mwy na phrosiectau yn unig. Rydym yn adeiladu diwydiant adeiladu mwy diogel, cryf a thosturiol.

Cerebral Palsy Cymru
2025-09-15

News

Ar 17 Gorffennaf, cafodd Tîm Cymunedau Sacyr y pleser o ymweld â chanolfan blant Cerebral Palsy Cymru yn Llanisien ar ôl i'r ganolfan gysylltu am gymorth gyda'i gwerthusiad manwerthu. Cyrhaeddodd aelodau'r tîm y ganolfan a chawsant eu cyfarch gan Carwyn Williams, Pennaeth Partneriaethau Corfforaethol y sefydliad. Eglurodd Carwyn gefndir yr elusen, ei hamcanion, y therapïau y mae'n eu darparu, a hanes sefydlu'r ganolfan blant. 


Cyn creu'r safle yng nghanol yr 1980au, arferai'r sylfaenwyr, Paul ac Yvonne Lubas, Glenys a Bob Evans deithio'r siwrnai 300 milltir yn ôl ac ymlaen i ganolfan Bobath yn Llundain yn rheolaidd er mwyn cael therapïau arbenigol i'w plant. Yn y cyd-destun hwn, mae Bobath yn cyfeirio at Berta Bobath, sylfaenydd dull Bobath a mam ffisiotherapi niwrolegol cyfoes.  


Ymhen amser, gan ei gweld yn amhosibl dal ati i ailadrodd y daith yn rheolaidd, dechreuodd y grŵp godi arian yn 1989 er mwyn dod o hyd i ateb. Bedair blynedd yn ddiweddarach, ar ôl ymdrechion sylweddol i godi arian, ymunodd rhieni ledled De Cymru â nhw, a oedd hefyd yn chwilio am driniaeth hygyrch i'w plant, a chyda'r cydymdrech hwn llwyddwyd i agor Bobath Cymru ym mis Mehefin 1992. 


Gan ddechrau gyda dim ond pedwar therapydd, yn y flwyddyn gyntaf llwyddwyd i drin 45 o blant. Yn 2020, newidiodd y sefydliad ei enw i Cerebral Palsy Cymru, er mwyn sicrhau y gallai teuluoedd sy'n byw gyda pharlys yr ymennydd ddod o hyd iddo'n hawdd. 


Ar ôl cael taith o amgylch y cyfleuster, gweld ei ystafelloedd therapi, ei ardd les a gynlluniwyd yn arbennig, a chlywed am ddyluniad ergonomig bwriadol y cyfleusterau, roedd y tîm Budd Cymunedol wedi'i syfrdanu gan waith y tîm, ac ni allai aros i helpu ym mha bynnag ffordd bosibl. 


Gan fod rhan o gyllid yr elusen yn cael ei godi trwy siopau elusen ledled ardal Caerdydd a'r Barri, y dasg a neilltuwyd i'r Tîm Budd Cymunedol oedd asesu'r siopau hyn a chreu adborth defnyddiol ar sut y gallent wella. Mewn grwpiau o ddau, bu aelodau'r tîm Budd Cymunedol yn canolbwyntio ar y siopau yng Nghaerdydd a llwyddwyd i ddod o hyd i welliannau y gellid eu gwneud gyda'u cymorth. 


Darparom adborth manwl trwy adroddiad cynhwysfawr, ac rydym yn llawn cyffro i rannu bod nodwedd platfform newydd bellach ar y gweill i gynorthwyo elusennau lleol, wedi'i ysbrydoli gan yr wybodaeth a gasglom gyda'n gilydd.

Bryn y Deryn
2025-09-12

News

Croesawodd Joanne O'Keefe, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr, Gydlynydd Gyrfa Cymru, Dominique Deacon; Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes Gyrfa Cymru, Adrian Cole; a Kathryn Cole, Pennaeth Cynorthwyol Bryn y Deryn, am drafodaeth foreol cyn cychwyn y cynllun Partneriaeth Werthfawr newydd.


Byddai'r cynllun yn creu perthynas fuddiol a pharhaol rhwng yr ysgol a'r prif gontractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre.


Gyda'i gilydd, aethant ati i archwilio'r posibilrwydd o gael staff Sacyr i gynnal prosiect hirdymor yn yr ysgol. Aeth Drafftsmon Sacyr, Jamie Arthur, a oedd wedi gweithio gyda'r disgyblion yn flaenorol ac wedi meithrin perthynas gadarnhaol, ati i daflu ei helmed ddiogelwch i'r cylch, gan gynnig ei arbenigedd a'i brofiad proffesiynol yn yr ysgol. Mae'r prosiect yn cynnwys ymgais i lunio cynlluniau gwersi sy'n ymwneud â chreu cynlluniau a lluniadau, darparu costau amcangyfrifedig, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau'n ymwneud â chrefft. 


Er mwyn i'r myfyrwyr weld yr effaith gadarnhaol y gallant ei chreu â'u dwylo eu hunain, gall y gwersi gynnwys adeiladu nodwedd a ddymunir ar gyfer yr ysgol, neu baratoi ardal ar y safle i hwyluso gweithdai adeiladu yn y dyfodol. Mae'r Pennaeth Cynorthwyol, Kathryn Cole, wedi awgrymu ystafell Dylunio a Thechnoleg segur yn yr ysgol a allai fod yn briodol i'w datblygu, gyda chymorth tebygol gan staff Sacyr i ddod â'r gweithdy'n fyw.


Bu Jo a'r grŵp yn trafod y posibilrwydd o gael staff Sacyr i gyflwyno sesiynau gyrfaoedd pwnc-benodol. Un ffocws posibl oedd mathemateg, lle gallai staff Sacyr rannu'r modd y mae sgiliau rhifedd yn cael eu cymhwyso yn eu rolau, e.e. o ran gwaith crefft, swyddi proffesiynol, tirfesur, neu bensaernïaeth, a hwyluso gweithgaredd mathemateg ymarferol byr sy'n gysylltiedig â'u maes. 
Mewn ymdrechion blaenorol cafodd sesiynau tebyg eu cydlynu ar draws sawl ysgol yn llwyddiannus, a bu croeso mawr iddynt, gan arwain staff ysgol i fynegi eu parodrwydd i gynnal sesiynau dan arweiniad mewn gwahanol bynciau.


Ochr yn ochr â hyn, mae Sacyr yn bwriadu i ysgolion ymweld â'r safle o leiaf unwaith y tymor, gan sicrhau bod dewis amrywiol o adrannau a rolau yn cael eu cynrychioli yn ystod pob ymweliad, gyda thasgau'n cael eu gosod ar gyfer y myfyrwyr i adlewyrchu'r rolau. Bydd y dull hwn yn dangos cynnydd y prosiect dros amser ac yn adlewyrchu'r gweithgareddau cyfredol ar y safle. Er enghraifft, gellid cynnwys ymweliadau â mannau megis y ffreutur i arddangos gweithrediadau lletygarwch ac arlwyo, gweithgareddau garddwriaeth yn ystod y cyfnodau plannu, ac arddangosiadau neu weithdai'n ymwneud â thechnoleg dronau i ddangos sut y mae lluniau o'r cynnydd ar y safle yn cael eu tynnu. Gyda'i gilydd, y gobaith yw y bydd yr ymweliadau hyn yn agor llygaid y myfyrwyr i'r amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael yn Sacyr, ac yn y sector adeiladu ehangach. 


Mae cynllun mentora wedi cael ei gynnig hefyd, ynghyd â syniadau ar gyfer rhaglen profiad gwaith sy'n cynnwys arferion gwaith diogel yn y swyddfa, yn y dderbynfa, ac yn yr adran farchnata. 


(O'r chwith i'r dde: Adrian Cole, Kathryn Cole, Joanne O’Keefe, Dominique Deacon)

Información (1)
2025-09-09

News

Roeddem am roi gwybod i chi fod trefniadau caniatâd newydd y tu allan i oriau wedi'u rhoi ar waith ar gyfer ein gwaith ar Ganolfan Ganser newydd Felindre. Mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi cymeradwyo caniatâd adeiladu Adran 61 newydd o 12 Medi i 8 Hydref. 

Mae'r caniatâd newydd hwn yn canolbwyntio ar gwblhau'r ffrâm goncrit gyfnerth a'r gwaith blociau concrit amddiffynnol hanfodol. 

Mae gweithgareddau blociau concrit amddiffynnol yn rhan allweddol o'r broses o adeiladu'r llawr yn strwythurol, ac yn cynnwys blociau a osodir yn fecanyddol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ystyried yn waith effaith isel, ac fe'i cymeradwyir yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau o dan y caniatâd presennol.
 
Ni fydd unrhyw waith pellach y tu allan i oriau yn cael ei ganiatáu o dan Adran 61 ar gyfer mis Tachwedd. 
 
Y trefniadau gweithio Y TU ALLAN I ORIAU a ganiateir:

•    Dydd Llun i ddydd Iau:
o    6:00 PM i 8:00 PMDim ond gwaith nad yw'n swnllyd 
(e.e. Blociau Amddiffynnol, barrau atgyfnerthu, gwaith ffurf, concrit, gosod wyneb gwrth-ddŵr, gwaith codi)
o    Ni chaniateir gwaith ar ôl 8:00 PM
•    Dydd Gwener:
o    DIM gwaith y tu allan i oriau yn cael ei ganiatáu
o    Rhaid i'r holl waith ddod i ben erbyn 6:00 PM

    Dydd Sadwrn:
o    1:00 PM i 3:00 PM
Blociau amddiffynnol 
•    Dydd Llun i ddydd Gwener (yn gynnar yn y bore):
o    6:00 AM i 8:00 AM
Ni chaniateir unrhyw waith
(Caniateir mynediad i'r safle, ond dim gweiddi na sŵn)

Mesurau arbennig ar gyfer gwaith biau amddiffynnol (y tu allan i oriau):
Bydd gwaith y tu allan i oriau yn cydymffurfio â'r canlynol:
•    Amddiffyniad acwstig yn ofynnol ar gyfer torri, yn enwedig ger Ystad Hollybush
•    Blaenoriaethu gwaith mewnol
•    Canolbwyntio ar weithgareddau ar y llawr gwaelod; osgoi gwaith ar y nenfydau sy'n ymwneud â chraeniau
•    Defnyddio amddiffyniad ochrol lle bo angen

Amddiffyniad ochrol yw unrhyw atgyfnerthiad dros dro neu barhaol sy'n darparu cymorth i wrthsefyll grymoedd a gwyriadau.

Dyddiadau Allweddol:
•    Tan 11 Medi:

Awst adran 61 yn parhau mewn grym
(Caniateir gwaith ar y Blociau Amddiffynnol rhwng 8:00 PM a 10:00 PM, o ddydd Llun i ddydd Iau)
•    O 12 Medi i 8 Hydref:
Medi adran 61 yn berthnasol
(Ni chaniateir unrhyw waith ar ôl 8:00 PM ar unrhyw ddiwrnod)

2025-09-03.jpg
2025-09-03

News

Treuliodd disgyblion o ysgol gynradd Pantside brynhawn adeiladol yn dysgu am fywyd ar safle adeiladu, a chawsant gyfle i weld Canolfan Ganser Newydd Felindre wrthi'n cael ei hadeiladu. Cynhaliodd y Cydlynydd Buddion Cymunedol, Joanne O'Keefe, wers am y creaduriaid niferus sy'n byw o amgylch y safle yn yr amgylchedd naturiol, a'r ymdrechion y mae Sacyr yn eu gwneud i'w gwarchod.

Gan wisgo eu cyfarpar diogelu personol, ac yn cario eu clipfyrddau, heriwyd y disgyblion i archwilio llwybr diogelwch y safle, gan nodi gwrthrychau cyffredin a ganfuwyd ar y safle a hefyd elfennau o'r bywyd gwyllt sydd o'i gwmpas.

Ar ôl cwblhau eu rhestr wirio, cafodd y disgyblion eu tywys 'nôl i'r ystafell ddosbarth i drafod yr hyn a welwyd ac i fwynhau cinio cwbl haeddiannol ar ôl ychydig oriau o ddysgu. Gadawodd y disgyblion y safle yn teimlo eu bod wedi dysgu rhywbeth ac wedi'u hysbrydoli gan yr hyn yr oeddent wedi'i weld, ac yn llawn cyffro i ddweud wrth eu ffrindiau am eu profiad cyntaf ar safle adeiladu.

2025-08-29_Community at the Heart - Cardiff Bay Rotary Visits Sacyr Site.jpg
2025-08-29

News

Yn Sacyr, mae'r gymuned yn eistedd yn gadarn wrth wraidd popeth a wnawn. Dyna pam yr oeddem yn falch o groesawu aelodau Rotari Bae Caerdydd i safle Canolfan Ganser newydd Felindre yn gynharach yr wythnos hon.

Cynhaliwyd yr ymweliad ddydd Mawrth 12 Awst, a oedd yn ddiwrnod heulog braf gyda'r tymheredd yn cyrraedd 32°C, a daeth aelodau o'n timau Dylunio, Iechyd a Diogelwch, Adeiladu, a Buddion Cymunedol at ei gilydd, ynghyd â'n Cyfarwyddwr Prosiect a'n Cyfarwyddwr Adeiladu, i arddangos y cynnydd a'r arloesedd sy'n digwydd ar y safle.

Mae'r Clwb Rotari Rhyngwladol yn rhwydwaith byd-eang o wirfoddolwyr sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â rhai o heriau dyngarol mwyaf dybryd y byd, ac yng Nghaerdydd mae'r clybiau lleol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi mentrau cymunedol, mentrau datblygu ieuenctid, ac achosion elusennol ar hyd a lled y ddinas.

Deilliodd yr ymweliad o wahoddiad gan y preswylydd lleol ac aelod o'r Rotary, David Reeves, a'n croesawodd ni gyntaf i gyflwyno Sacyr a'r prosiect mewn cyfarfod Rotari yn y Novotel yn gynharach eleni. Roedd yn amlwg o'r sgwrs gychwynnol honno, ac o'r croeso cynnes gan yr aelodau, y dylai taith o amgylch y safle ddilyn; a pha well adeg na'r haf?

Roedd y daith yn gyfle gwych i dynnu sylw at ein cynnydd, gan gynnwys rhai o'r datblygiadau arloesol cyntaf i gael eu cyflawni yn y diwydiant. Gydag aelodau o'r Rotari yn bresennol o amryw o gefndiroedd proffesiynol, gan gynnwys penseiri, nyrsys, peirianwyr, a mwy, roeddem yn teimlo'n ostyngedig wrth gael adborth mor gadarnhaol. Nododd nifer ohonynt pa mor ddramatig y mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd, a'r modd y mae dyluniad a chyflwyniad y prosiect yn amlwg yn elfennau gwirioneddol unigryw.

Un o'r nodweddion yr ydym fwyaf balch ohoni yw'r llwybr cerdded, sy'n caniatáu i ymwelwyr mor ifanc â chwech oed brofi'r safle yn uniongyrchol ac yn ddiogel. Dyma'r math o hygyrchedd a natur agored sy'n gwneud Sacyr UK yn unigryw ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ymgysylltu â'r gymuned ar bob cam o'r prosiect.

Dywedodd y Llywydd, Angela Gorman: "Roedd hwn yn ymweliad gwirioneddol ysbrydoledig. Roedd yn wych gweld faint o gynnydd sy'n cael ei wneud wrth adeiladu'r cyfleuster newydd ffantastig hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Katie a'i chyd-weithwyr am drefnu hyn a chwrdd â ni. Byddwn yn edrych ymlaen at ddod yma eto wrth i gamau pellach o'r datblygiad hwn gael eu cyflawni."

Dywedodd Keith Moger: "A minnau wedi gweithio yn y GIG, rwyf wedi bod i nifer o safleoedd adeiladu ysbytai, ond nid wyf erioed o'r blaen wedi dod ar draws y trefniadau y mae Sacyr wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod y rheiny sydd â diddordeb yn ‘agos at galon’ y prosiect hwn. Mae hon yn ffordd wych ymlaen i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd a chynnal eu diddordeb. At hynny, am fy mod yn rhywun sy'n ddiolchgar iawn am waith Canolfan Ganser presennol Felindre, mae'n dda cael gwybod y bydd ganddi gyfleuster llawer gwell cyn hir."

Estynnwn ein diolch diffuant i David Reeves am ysgogi'r ymweliad, ac i holl aelodau Rotari Bae Caerdydd am eu brwdfrydedd a'u cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at eu croesawu unwaith eto yn 2026 i weld pa mor bell yr ydym wedi dod.

MR May June
2025-08-29

Monitoring Report

New Velindre Cancer Centre - Summary Monitoring Report - August 2025

2025-08-28

Timelapse Camera

Watch last month's construction progress!

Empowering Future Builders
2025-08-25

News

Yn ddiweddar, cymerodd cynorthwyydd technegol Sacyr UK, Chantelle Lennard, a Jo O'Keefe, y Cydlynydd Buddion Cymunedol, ran yn y digwyddiad Menywod ym Maes Adeiladu a gynhaliwyd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn Academi STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg) Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. 


Daeth y digwyddiad â 65 o fyfyrwyr benywaidd blwyddyn naw, rhwng 14 a 15 oed, ynghyd o bedair ysgol leol. Roedd y diwrnod wedi'i neilltuo i ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes adeiladu trwy arddangos yr amrywiaeth gyffrous o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant.


Roedd yn bleser gan Sacyr ddangos ei fideo Menywod ym Maes Adeiladu yn rhan o'r cyflwyniad gan arddangos yn falch gyfraniadau anhygoel y menywod talentog sy'n gweithio ar brosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre. Roedd y fideo'n tynnu sylw nid yn unig at yr ystadegau trawiadol o ran cynrychiolaeth menywod ar y safle, ond hefyd at yr ystod amrywiol o rolau y maent yn eu cyflawni, gan ddangos yr effaith hollbwysig y mae menywod yn ei chael wrth lunio'r cyfleuster gofal iechyd nodedig hwn.


Un o uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad oedd y cyfle i glywed gan ddwy fenyw ysbrydoledig sy'n gweithio yn y maes, Lana Abbott o RMG Groundworks ac Alex Bear o Willmott Dixon. Aethant ati i rannu straeon personol pwerus am eu profiadau yn y sector adeiladu ac effaith ystyrlon eu gwaith, ac i annog myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd nad oeddent o bosibl wedi'u dychmygu ar eu cyfer eu hunain o'r blaen.


Cymerodd y myfyrwyr ran mewn cyfres o weithgareddau STEM rhyngweithiol, a gynlluniwyd i feithrin hyder, gwaith tîm a sgiliau datrys problemau. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys adeiladu tyrau o frics ewyn, dylunio a chydosod tetrahedron mawr gan ddefnyddio rhodenni a bandiau elastig, a mynd i'r afael â her boblogaidd y tŵr malws melys. Roedd pob tasg yn efelychu agweddau gwahanol ar adeiladu a pheirianneg. 


Un o'r profiadau nodedig oedd gweithgaredd y clustffonau realiti rhithwir (VR), a oedd yn caniatáu i'r myfyrwyr gamu i safleoedd adeiladu mewn modd rhithwir gan roi persbectif realistig ac ymgolli iddynt o'r gweithrediadau o ddydd i ddydd. 
Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth bwrdd crwn, lle gallai'r myfyrwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â'r gweithwyr proffesiynol a mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau penodol oedd ganddynt.


Dywedodd Jo O’Keefe, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr UK, a oedd yn bresennol yn y sesiwn: “Roedd yn wych cwrdd â chynifer o ddisgyblion o ysgolion o amgylch yr ardal a thrafod yr opsiynau â nhw o ran gyrfaoedd ar eu cyfer ym maes adeiladu. Am ei fod yn ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, weithiau nid yw merched a menywod ifanc yn ei ystyried yn opsiwn iddynt, felly roedd yn wych gallu dod â’r diwydiant yn fyw gan ddefnyddio technoleg a phrofiadau bywyd go iawn Lana ac Alex”.


Ychwanegodd Jo: “Mae Sacyr UK yn falch o fod wedi cefnogi’r fenter hon, gan helpu i ennyn chwilfrydedd a hyder ymhlith menywod ifanc i archwilio’r posibiliadau y gall gyrfa ym maes adeiladu eu cynnig".

Students Tour
2025-08-20

News

Gwahoddwyd grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgolion Uned Cyfeirio Disgyblion Bryn y Deryn a Chân y Deryn i fynd ar daith o amgylch safle Canolfan Ganser Newydd Felindre Sacyr UK, gyda'r nod o lywio ac ysbrydoli eu dyfodol.


Canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Phartneriaeth y Bobl, a fu'n astudio grŵp o 1,000 o oedolion sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu, fod tua un o bob pedwar gweithiwr yn ei ystyried ei hun yn niwroamrywiol. Y cyflwr mwyaf cyffredin oedd ADHD, yn cael ei ddilyn gan Awtistiaeth a Dyslecsia.


Trefnodd Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr, Joanne O'Keefe, sesiwn addysgol STEM gyda'r myfyrwyr, gan esbonio cwmpas y prosiect a'i ddyluniad cynaliadwy, arddangos datblygiad presennol yr amserlen cynnydd, a hefyd ymdrin â'r amrywiaeth o swyddi sy'n bodoli ar safle— ynghyd â'r amryw o lwybrau gyrfa sydd ar gael. 


Gyda Jo yr oedd y Drafftsmon Jamie Arthur, a roddodd gipolwg i'r myfyrwyr ar yr hyn sy'n digwydd ar safle, gan ddangos sut y mae'r cynlluniau ar gyfer y ganolfan yn cael eu gwireddu. Yn ymuno â'r ddau yr oedd y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Josh Kincaid, a roddodd sgwrs fer i dywys y myfyrwyr trwy’r rhagofalon diogelwch a’r ymddygiad priodol ar gyfer y safle. Roedd hyn yn rhoi gwybodaeth iddynt, ond hefyd yn eu haddysgu am beryglon ymddygiad amhriodol. 


Ar ôl gwisgo eu festiau ymwelwyr llachar, aeth y myfyrwyr allan a chael eu tywys ar daith gerdded rannol o amgylch perimedr diogelwch 60,000 metr sgwâr y safle, gan roi cyfle iddynt weld y gwaith yn mynd rhagddo drostynt eu hunain. 


Rhoddodd y Peiriannydd Sifil Jake Doran Hughes gipolwg ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael o ran swyddi ar y safle, gan helpu i ysbrydoli'r myfyrwyr, delweddu'r gwaith, a manylu ar rai o elfennau technegol diwrnod ym mywyd gweithwyr ar safle'r Ganolfan newydd. 


I orffen y daith o amgylch y safle, cafodd y myfyrwyr arddangosiad o’r llwythwr telesgopig gan y gweithredwr Gregg Cuthbert, cyn cael cyfle i eistedd yn sedd y gyrrwr yn eu tro, gan blannu hedyn posibl ar gyfer eu dyfodol.


Daeth y daith i ben gyda chinio a ddarparwyd gan Sacyr, gyda'r grŵp yn dod ynghyd i dynnu llun i gloi'r sesiwn. Wrth adael y safle yn teimlo'n ysbrydoledig, clywyd un o'r myfyrwyr yn gadael nodyn llais i ffrind nad oedd wedi gallu bod yn bresennol, gan ddweud y byddai'n rhaid iddo "ddod i'r un nesaf".

Breadcrumb