Ymweliad Bryn y Deryn a Chân y Deryn
Gwahoddwyd grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgolion Uned Cyfeirio Disgyblion Bryn y Deryn a Chân y Deryn i fynd ar daith o amgylch safle Canolfan Ganser Newydd Felindre Sacyr UK, gyda'r nod o lywio ac ysbrydoli eu dyfodol.
Canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Phartneriaeth y Bobl, a fu'n astudio grŵp o 1,000 o oedolion sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu, fod tua un o bob pedwar gweithiwr yn ei ystyried ei hun yn niwroamrywiol. Y cyflwr mwyaf cyffredin oedd ADHD, yn cael ei ddilyn gan Awtistiaeth a Dyslecsia.
Trefnodd Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr, Joanne O'Keefe, sesiwn addysgol STEM gyda'r myfyrwyr, gan esbonio cwmpas y prosiect a'i ddyluniad cynaliadwy, arddangos datblygiad presennol yr amserlen cynnydd, a hefyd ymdrin â'r amrywiaeth o swyddi sy'n bodoli ar safle— ynghyd â'r amryw o lwybrau gyrfa sydd ar gael.
Gyda Jo yr oedd y Drafftsmon Jamie Arthur, a roddodd gipolwg i'r myfyrwyr ar yr hyn sy'n digwydd ar safle, gan ddangos sut y mae'r cynlluniau ar gyfer y ganolfan yn cael eu gwireddu. Yn ymuno â'r ddau yr oedd y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Josh Kincaid, a roddodd sgwrs fer i dywys y myfyrwyr trwy’r rhagofalon diogelwch a’r ymddygiad priodol ar gyfer y safle. Roedd hyn yn rhoi gwybodaeth iddynt, ond hefyd yn eu haddysgu am beryglon ymddygiad amhriodol.
Ar ôl gwisgo eu festiau ymwelwyr llachar, aeth y myfyrwyr allan a chael eu tywys ar daith gerdded rannol o amgylch perimedr diogelwch 60,000 metr sgwâr y safle, gan roi cyfle iddynt weld y gwaith yn mynd rhagddo drostynt eu hunain.
Rhoddodd y Peiriannydd Sifil Jake Doran Hughes gipolwg ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael o ran swyddi ar y safle, gan helpu i ysbrydoli'r myfyrwyr, delweddu'r gwaith, a manylu ar rai o elfennau technegol diwrnod ym mywyd gweithwyr ar safle'r Ganolfan newydd.
I orffen y daith o amgylch y safle, cafodd y myfyrwyr arddangosiad o’r llwythwr telesgopig gan y gweithredwr Gregg Cuthbert, cyn cael cyfle i eistedd yn sedd y gyrrwr yn eu tro, gan blannu hedyn posibl ar gyfer eu dyfodol.
Daeth y daith i ben gyda chinio a ddarparwyd gan Sacyr, gyda'r grŵp yn dod ynghyd i dynnu llun i gloi'r sesiwn. Wrth adael y safle yn teimlo'n ysbrydoledig, clywyd un o'r myfyrwyr yn gadael nodyn llais i ffrind nad oedd wedi gallu bod yn bresennol, gan ddweud y byddai'n rhaid iddo "ddod i'r un nesaf".
