Sacyr ac Ysgol Bryn y Deryn yn ffurfioli Partneriaeth Werthfawr
Croesawodd Joanne O'Keefe, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr, Gydlynydd Gyrfa Cymru, Dominique Deacon; Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes Gyrfa Cymru, Adrian Cole; a Kathryn Cole, Pennaeth Cynorthwyol Bryn y Deryn, am drafodaeth foreol cyn cychwyn y cynllun Partneriaeth Werthfawr newydd.
Byddai'r cynllun yn creu perthynas fuddiol a pharhaol rhwng yr ysgol a'r prif gontractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre.
Gyda'i gilydd, aethant ati i archwilio'r posibilrwydd o gael staff Sacyr i gynnal prosiect hirdymor yn yr ysgol. Aeth Drafftsmon Sacyr, Jamie Arthur, a oedd wedi gweithio gyda'r disgyblion yn flaenorol ac wedi meithrin perthynas gadarnhaol, ati i daflu ei helmed ddiogelwch i'r cylch, gan gynnig ei arbenigedd a'i brofiad proffesiynol yn yr ysgol. Mae'r prosiect yn cynnwys ymgais i lunio cynlluniau gwersi sy'n ymwneud â chreu cynlluniau a lluniadau, darparu costau amcangyfrifedig, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau'n ymwneud â chrefft.
Er mwyn i'r myfyrwyr weld yr effaith gadarnhaol y gallant ei chreu â'u dwylo eu hunain, gall y gwersi gynnwys adeiladu nodwedd a ddymunir ar gyfer yr ysgol, neu baratoi ardal ar y safle i hwyluso gweithdai adeiladu yn y dyfodol. Mae'r Pennaeth Cynorthwyol, Kathryn Cole, wedi awgrymu ystafell Dylunio a Thechnoleg segur yn yr ysgol a allai fod yn briodol i'w datblygu, gyda chymorth tebygol gan staff Sacyr i ddod â'r gweithdy'n fyw.
Bu Jo a'r grŵp yn trafod y posibilrwydd o gael staff Sacyr i gyflwyno sesiynau gyrfaoedd pwnc-benodol. Un ffocws posibl oedd mathemateg, lle gallai staff Sacyr rannu'r modd y mae sgiliau rhifedd yn cael eu cymhwyso yn eu rolau, e.e. o ran gwaith crefft, swyddi proffesiynol, tirfesur, neu bensaernïaeth, a hwyluso gweithgaredd mathemateg ymarferol byr sy'n gysylltiedig â'u maes.
Mewn ymdrechion blaenorol cafodd sesiynau tebyg eu cydlynu ar draws sawl ysgol yn llwyddiannus, a bu croeso mawr iddynt, gan arwain staff ysgol i fynegi eu parodrwydd i gynnal sesiynau dan arweiniad mewn gwahanol bynciau.
Ochr yn ochr â hyn, mae Sacyr yn bwriadu i ysgolion ymweld â'r safle o leiaf unwaith y tymor, gan sicrhau bod dewis amrywiol o adrannau a rolau yn cael eu cynrychioli yn ystod pob ymweliad, gyda thasgau'n cael eu gosod ar gyfer y myfyrwyr i adlewyrchu'r rolau. Bydd y dull hwn yn dangos cynnydd y prosiect dros amser ac yn adlewyrchu'r gweithgareddau cyfredol ar y safle. Er enghraifft, gellid cynnwys ymweliadau â mannau megis y ffreutur i arddangos gweithrediadau lletygarwch ac arlwyo, gweithgareddau garddwriaeth yn ystod y cyfnodau plannu, ac arddangosiadau neu weithdai'n ymwneud â thechnoleg dronau i ddangos sut y mae lluniau o'r cynnydd ar y safle yn cael eu tynnu. Gyda'i gilydd, y gobaith yw y bydd yr ymweliadau hyn yn agor llygaid y myfyrwyr i'r amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael yn Sacyr, ac yn y sector adeiladu ehangach.
Mae cynllun mentora wedi cael ei gynnig hefyd, ynghyd â syniadau ar gyfer rhaglen profiad gwaith sy'n cynnwys arferion gwaith diogel yn y swyddfa, yn y dderbynfa, ac yn yr adran farchnata.
(O'r chwith i'r dde: Adrian Cole, Kathryn Cole, Joanne O’Keefe, Dominique Deacon)
