Disgyblion Coryton yn archwilio cynaliadwyedd yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre
Aeth grŵp o 15 o ddisgyblion Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Coryton ar daith fer yn ddiweddar i safle Canolfan Ganser newydd Felindre am brynhawn o hwyl, archwilio a dysgu yn seiliedig ar ailgylchu.
Roedd yr ymweliad yn rhan o fenter ar y cyd rhwng Sacyr UK ac EMR Recycling, â’r nod o adeiladu sgiliau hanfodol yng nghenedlaethau’r dyfodol, trwy addysgu disgyblion ifanc am wyddor adeiladu a’r systemau cynaliadwy sy’n ei gefnogi.
Cafodd y disgyblion eu croesawu gan Joanne O’Keefe, Cydlynydd Budd Cymunedol Sacyr UK, a dechreuodd yr ymweliad â thaith dywys o gwmpas y safle, ar lwybr diogel ar y cyrion, gan sylwi ar faint prosiect y Ganolfan Ganser newydd.
Yn yr ystafell ddosbarth, cyfarfu’r disgyblion â chynrychiolwyr o gwmni EMR Recycling, Barry Flanagan a Ben Taylor, a arweiniodd sesiwn ddiddorol ynglŷn â pha ddeunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar y safle a’r rôl bwysig y mae ailgylchu’n ei chwarae wrth eu cynhyrchu. Dysgodd y disgyblion hefyd am leihau gwastraff er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Pan ofynnwyd iddo am amcanion a dylanwad y prosiect, dywedodd Ben: “Yn EMR, rydym o'r farn bod adeiladu dyfodol cynaliadwy yn dechrau wrth rymuso pobl ifanc trwy addysg. Mewn cydweithrediad â Sacyr, roeddem wedi darparu profiad dysgu diddorol yn ddiweddar a oedd yn cyflwyno myfyrwyr i bwysigrwydd ailgylchu, yr effeithiau cadarnhaol y mae ailgylchu yn eu cael ar y blaned, a'r modd y gall y deunyddiau yr ydym yn eu hailgylchu gael eu hailddefnyddio i adeiladu adeileddau newydd – efallai hyd yn oed eu hysgol nesaf neu eu gweithle yn y dyfodol.”
Eglurodd y ddau arbenigwr eco wrth y disgyblion beth yw’r gwahaniaeth rhwng deunyddiau magnetig ac anfagnetig, a rhoddasant samplau bach o ddeunyddiau i’r disgyblion wneud profion magnetig arnynt. Roedd hyn yn eu helpu i ddeall pa fath o fetelau sy’n cael eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd a sut maent yn berthnasol i faes adeiladu.
Ychwanegodd Ben: “Gyda'n gilydd, bydd Sacyr UK ac EMR yn parhau â'r gwaith hwn ar draws ysgolion a chymunedau i feithrin ymwybyddiaeth o ailgylchu yn y diwydiant adeiladu, gan ddarparu cyfleoedd dysgu ymarferol ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i arwain y ffordd o ran cyfrifoldeb amgylcheddol.”
“Mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd i werth cymdeithasol, addysgu pobl ifanc, a chreu gwaddol sy'n cael effaith ar bobl a'r blaned.”
