Cymuned wrth Wraidd—Rotari Bae Caerdydd yn Ymweld â Safle Sacyr
Yn Sacyr, mae'r gymuned yn eistedd yn gadarn wrth wraidd popeth a wnawn. Dyna pam yr oeddem yn falch o groesawu aelodau Rotari Bae Caerdydd i safle Canolfan Ganser newydd Felindre yn gynharach yr wythnos hon.
Cynhaliwyd yr ymweliad ddydd Mawrth 12 Awst, a oedd yn ddiwrnod heulog braf gyda'r tymheredd yn cyrraedd 32°C, a daeth aelodau o'n timau Dylunio, Iechyd a Diogelwch, Adeiladu, a Buddion Cymunedol at ei gilydd, ynghyd â'n Cyfarwyddwr Prosiect a'n Cyfarwyddwr Adeiladu, i arddangos y cynnydd a'r arloesedd sy'n digwydd ar y safle.
Mae'r Clwb Rotari Rhyngwladol yn rhwydwaith byd-eang o wirfoddolwyr sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â rhai o heriau dyngarol mwyaf dybryd y byd, ac yng Nghaerdydd mae'r clybiau lleol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi mentrau cymunedol, mentrau datblygu ieuenctid, ac achosion elusennol ar hyd a lled y ddinas.
Deilliodd yr ymweliad o wahoddiad gan y preswylydd lleol ac aelod o'r Rotary, David Reeves, a'n croesawodd ni gyntaf i gyflwyno Sacyr a'r prosiect mewn cyfarfod Rotari yn y Novotel yn gynharach eleni. Roedd yn amlwg o'r sgwrs gychwynnol honno, ac o'r croeso cynnes gan yr aelodau, y dylai taith o amgylch y safle ddilyn; a pha well adeg na'r haf?
Roedd y daith yn gyfle gwych i dynnu sylw at ein cynnydd, gan gynnwys rhai o'r datblygiadau arloesol cyntaf i gael eu cyflawni yn y diwydiant. Gydag aelodau o'r Rotari yn bresennol o amryw o gefndiroedd proffesiynol, gan gynnwys penseiri, nyrsys, peirianwyr, a mwy, roeddem yn teimlo'n ostyngedig wrth gael adborth mor gadarnhaol. Nododd nifer ohonynt pa mor ddramatig y mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd, a'r modd y mae dyluniad a chyflwyniad y prosiect yn amlwg yn elfennau gwirioneddol unigryw.
Un o'r nodweddion yr ydym fwyaf balch ohoni yw'r llwybr cerdded, sy'n caniatáu i ymwelwyr mor ifanc â chwech oed brofi'r safle yn uniongyrchol ac yn ddiogel. Dyma'r math o hygyrchedd a natur agored sy'n gwneud Sacyr UK yn unigryw ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ymgysylltu â'r gymuned ar bob cam o'r prosiect.
Dywedodd y Llywydd, Angela Gorman: "Roedd hwn yn ymweliad gwirioneddol ysbrydoledig. Roedd yn wych gweld faint o gynnydd sy'n cael ei wneud wrth adeiladu'r cyfleuster newydd ffantastig hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Katie a'i chyd-weithwyr am drefnu hyn a chwrdd â ni. Byddwn yn edrych ymlaen at ddod yma eto wrth i gamau pellach o'r datblygiad hwn gael eu cyflawni."
Dywedodd Keith Moger: "A minnau wedi gweithio yn y GIG, rwyf wedi bod i nifer o safleoedd adeiladu ysbytai, ond nid wyf erioed o'r blaen wedi dod ar draws y trefniadau y mae Sacyr wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod y rheiny sydd â diddordeb yn ‘agos at galon’ y prosiect hwn. Mae hon yn ffordd wych ymlaen i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd a chynnal eu diddordeb. At hynny, am fy mod yn rhywun sy'n ddiolchgar iawn am waith Canolfan Ganser presennol Felindre, mae'n dda cael gwybod y bydd ganddi gyfleuster llawer gwell cyn hir."
Estynnwn ein diolch diffuant i David Reeves am ysgogi'r ymweliad, ac i holl aelodau Rotari Bae Caerdydd am eu brwdfrydedd a'u cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at eu croesawu unwaith eto yn 2026 i weld pa mor bell yr ydym wedi dod.
