Asset Publisher

25/08/2025

Digwyddiad Menywod ym Maes Adeiladu yn Academi STEAM Coleg Pen-y-bont ar Ogwr

Yn ddiweddar, cymerodd cynorthwyydd technegol Sacyr UK, Chantelle Lennard, a Jo O'Keefe, y Cydlynydd Buddion Cymunedol, ran yn y digwyddiad Menywod ym Maes Adeiladu a gynhaliwyd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn Academi STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg) Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. 


Daeth y digwyddiad â 65 o fyfyrwyr benywaidd blwyddyn naw, rhwng 14 a 15 oed, ynghyd o bedair ysgol leol. Roedd y diwrnod wedi'i neilltuo i ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes adeiladu trwy arddangos yr amrywiaeth gyffrous o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant.


Roedd yn bleser gan Sacyr ddangos ei fideo Menywod ym Maes Adeiladu yn rhan o'r cyflwyniad gan arddangos yn falch gyfraniadau anhygoel y menywod talentog sy'n gweithio ar brosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre. Roedd y fideo'n tynnu sylw nid yn unig at yr ystadegau trawiadol o ran cynrychiolaeth menywod ar y safle, ond hefyd at yr ystod amrywiol o rolau y maent yn eu cyflawni, gan ddangos yr effaith hollbwysig y mae menywod yn ei chael wrth lunio'r cyfleuster gofal iechyd nodedig hwn.


Un o uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad oedd y cyfle i glywed gan ddwy fenyw ysbrydoledig sy'n gweithio yn y maes, Lana Abbott o RMG Groundworks ac Alex Bear o Willmott Dixon. Aethant ati i rannu straeon personol pwerus am eu profiadau yn y sector adeiladu ac effaith ystyrlon eu gwaith, ac i annog myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd nad oeddent o bosibl wedi'u dychmygu ar eu cyfer eu hunain o'r blaen.


Cymerodd y myfyrwyr ran mewn cyfres o weithgareddau STEM rhyngweithiol, a gynlluniwyd i feithrin hyder, gwaith tîm a sgiliau datrys problemau. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys adeiladu tyrau o frics ewyn, dylunio a chydosod tetrahedron mawr gan ddefnyddio rhodenni a bandiau elastig, a mynd i'r afael â her boblogaidd y tŵr malws melys. Roedd pob tasg yn efelychu agweddau gwahanol ar adeiladu a pheirianneg. 


Un o'r profiadau nodedig oedd gweithgaredd y clustffonau realiti rhithwir (VR), a oedd yn caniatáu i'r myfyrwyr gamu i safleoedd adeiladu mewn modd rhithwir gan roi persbectif realistig ac ymgolli iddynt o'r gweithrediadau o ddydd i ddydd. 
Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth bwrdd crwn, lle gallai'r myfyrwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â'r gweithwyr proffesiynol a mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau penodol oedd ganddynt.


Dywedodd Jo O’Keefe, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr UK, a oedd yn bresennol yn y sesiwn: “Roedd yn wych cwrdd â chynifer o ddisgyblion o ysgolion o amgylch yr ardal a thrafod yr opsiynau â nhw o ran gyrfaoedd ar eu cyfer ym maes adeiladu. Am ei fod yn ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, weithiau nid yw merched a menywod ifanc yn ei ystyried yn opsiwn iddynt, felly roedd yn wych gallu dod â’r diwydiant yn fyw gan ddefnyddio technoleg a phrofiadau bywyd go iawn Lana ac Alex”.


Ychwanegodd Jo: “Mae Sacyr UK yn falch o fod wedi cefnogi’r fenter hon, gan helpu i ennyn chwilfrydedd a hyder ymhlith menywod ifanc i archwilio’r posibiliadau y gall gyrfa ym maes adeiladu eu cynnig".