Asset Publisher

06/10/2025

Mae'r gwaith wedi dechrau i osod y ffrâm bren fawr y tu mewn i Ganolfan Ganser newydd Felindre – carreg filltir bwysig yn y prosiect

Mae'r ffrâm bren yn hanfodol i adeiledd y ganolfan, ac yn nodwedd ddylunio allweddol. Ar ôl ei chwblhau, bydd yn ffurfio calon y Lolfa, gan greu amgylchedd cynnes a chroesawgar i gleifion, teuluoedd a staff.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, David Powell: “Mae dechrau’r ffrâm bren yn garreg filltir gyffrous iawn. Bydd yr adeiledd allweddol hwn nid yn unig yn diffinio edrychiad a theimlad y Lolfa, ond hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu ysbyty modern, carbon isel sy'n rhoi pobl wrth ei galon.”

 

Gan mai dyma un o'r fframiau pren mwyaf o'i bath yn y DU, mae ei gosod yn gam sylweddol o ran gwireddu dyluniad y ganolfan newydd. Yn ganolbwynt i ddyluniad Canolfan Ganser newydd Felindre y mae'r Lolfa, sef y gofod craidd canolog sy'n ymestyn trwy uchder llawn yr adeilad. Bydd taith pob ymwelydd a chlaf yn dechrau ac yn gorffen yn y gofod hwn. Bydd yr ardal ganolog hon yn hawdd ei hadnabod oherwydd ei gorffeniadau a'i dyluniad, gan ddarparu man cyrraedd croesawgar i gleifion ac ymwelwyr. Bydd yn cynnwys ardal gaffi, ac ail set o risiau sydd hefyd yn darparu seddi tebyg i amffitheatr lle gall meddygon, nyrsys, ymwelwyr, neu gleifion eistedd a mwynhau'r olygfa dros ardd y fynedfa isaf.

 

Mae pob agwedd ar ddyluniad Canolfan Ganser newydd Felindre, gan gynnwys y Lolfa, yn canolbwyntio ar anghenion y cleifion, y staff, y teuluoedd a'r gofalwyr. Bydd nodweddion megis trefniadau llywio gwell, cyfleusterau parcio mwy hwylus, mannau therapiwtig, ac ardaloedd pwrpasol i deuluoedd yn gwella cyfforddusrwydd, urddas, a'r profiad gofal yn gyffredinol.

 

Mae Canolfan Ganser newydd Felindre i fod i agor yng Ngwanwyn 2027. Bydd yn cyflawni canlyniadau gwell trwy driniaeth canser o safon fyd-eang, gallu diagnostig gwell, a mwy o fynediad at arloesedd, hyfforddiant ac ymchwil.

 

Mae'r delweddau hyn yn dangos dechrau'r gwaith, a byddwn yn rhannu rhagor o ddiweddariadau wrth i'r gwaith ar y ffrâm bren fynd yn ei flaen, felly arhoswch gyda ni! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gadewch sylw i ni isod.